The Glee Project

The Glee Project

Logo'r Glee Project
Fformat Sioe dalent realiti rhyngweithiol
Crëwyd gan Ryan Murphy
Cyflwynwyd gan Robert Ulrich
Beirniaid Ryan Murphy
Robert Ulrich
Zach Woodlee
Nikki Anders
Ian Brennan
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 10
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd
gweithredol
Michael Davies
Shauna Minoprio
Ryan Murphy
Dante Di Loreto
Cynhyrchydd Ryan Murphy
Lleoliad(au) Los Angeles
Amser rhedeg 44 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol Oxygen
Darllediad gwreiddiol 12 Mehefin 2011 – presennol
Statws Ymlaen
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Cyfres deledu realiti Americanaidd a gynhyrchir gan Oxygen yw The Glee Project, sydd a'i fformat ar ffurf clyweliad ar gyfer cyfres deledu FOX, Glee. Bwriad y cynyrchyddion oedd i'r gyfres gael ei darlledu gyntaf ym mis Mai 2011 hwyr, ond gwnaed hynny ar 12 Mehefin 2011. Yng Nghanada, darlledwyd y gyfres ar sianel Slice ar 26 Mehefin 2011 ac yn y Deyrnas Unedig ar Sky One ar 14 Mehefin 2011, gyda darllediad dwy awr estynedig, lle dangoswyd y broses clyweld o'r Prif 12 yn yr awr gyntaf.

Mae cynhyrchwyr gweithredol Glee, Ryan Murphy a Dante Di Loreto, hefyd yn gynhyrchwyr gweithredol ar gyfer The Glee Project. Mae cynhyrchydd castio Glee', Robert Ulrich, hefyd yn gynhyrchydd castio ar gyfer y prosiect.[1][2]

Enillodd Damian McGinty a Samuel Larsen y gyfres gyntaf. Daeth Lindsay Pearce ac Alex Newell yn ail, a byddent yn serennu mewn dwy bennod o Glee. Enillodd Cameron Mitchell y gystadleuaeth "cefnogwr mwyaf hoffus" a'r wobr o $10,000 (tua £6,300) ar ôl iddo roi'r ffidl yn y to yn ystod pennod 7.[3]

  1. (Saesneg) Emmy® Award Winners Ryan Murphy and Dante Di Loreto Sign On To Executive Produce Oxygen’s "The Glee Project". Facebook.com.
  2. (Saesneg) About The Glee Project.
  3. (Saesneg) Cameron Mitchell: A Glee Project Winner After All. D Magazine (22 Awst 2011).

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy